Ôl-ddyledion Morgais a Rhent

Ydych chi'n cael trafferth talu'ch morgais neu'ch rhent?

Efallai bod eich amgylchiadau wedi newid, e.e. oherwydd eich bod wedi colli eich swydd, bod gennych broblemau iechyd neu eich bod wedi gwahanu o’ch partner yn ddiweddar. Neu efallai eich bod chdi'n cael trafferth gyda phrisiau uwcha mwy o filiau heb unrhyw arian ychwanegol yn dod i mewn i'w talu.

Gall hyn beri pryder i chi felly gofynnwch am help cyn gynted â phosibl.

Bydd cynghorwyr arian yn edrych ar eich sefyllfa ariannol gyfan ond byddant yn ceisio datrys eich sefyllfa rhent neu forgais fel blaenoriaeth.


 

Ad-daliadau Morgais

Os na allwch dalu eich morgais, neu os ydych yn poeni y gallech gael trafferth talu eich morgais gan fod biliau eraill yn codi, siaradwch â'ch darparwr morgais cyn gynted â phosibl. Cysylltwch ag ef yn uniongyrchol neu trefnwch apwyntiad gydag ymgynghorydd ariannol annibynnol i drafod eich dewisiadau.

Sicrhewch eich bod chi'n parhau i dalu cymaint ag y gallwch bob mis. Mae parhau i wneud taliadau rheolaidd, hyd yn oes ydyn nhw'n amrywio, yn dangos eich bod yn ymrwymedig. Bydd benthycwyr yn fwy tebygol o'ch trin chi mewn modd sympathetig, a byddwch yn lleihau eich ôl-ddyledion ar yr un pryd.

Gallech fod yn gymwys am help dan gynllun achub morgais Yng Nghaerdydd mae rhai o'r Cymdeithasau Tai yn cynnig cynllun achub morgais felly cysylltwch â hwy i gael rhagor o wybodaeth.

Cymdeithas Tai Hafod

Cymdeithas Tai Unedig Cymru

Cymdeithas Tai Wales & West

ôl-ddyledion Rhent

Os ydych yn cael trafferth talu eich rhent, ceisiwch gyngor cyn gynted â phosibl.Peidiwch â gadael i'r ôl-ddyledion dyfu - gallech golli eich cartref a bydd yn ei gwneud yn anodd i chi gael tenantiaeth newydd yn y dyfodol.

Dylech:

  • Siarad â'ch landlord i geisio dod i gytundeb ynghylch talu unrhyw ôl-ddyledion rhent. Bod yn realistig, peidiwch â chytuno i dalu mwy nag y gallwch ei fforddio.
  • Gofyn am gyngor annibynnol. Ceir asiantaethau yng Nghaerdydd sy'n cynnig gwasanaeth cyfrinachol am ddim. Byddant yn edrych ar eich sefyllfa ariannol yn gyffredinol ac yn rhoi awgrymiadau i chi o ran sut i symud ymlaen.
  • Os nad ydych yn hawlio Budd-dal Tai ydy hyn nawr yn opsiwn? Defnyddiwch Gyfrifiannell Budd-dal Tai y Cyngor i gael gwybod mwy.
  • Meddyliwch am ffyrdd eraill o gynyddu eich incwm.

Cofiwch y dylech bob amser drin eich rhent fel un o'ch prif flaenoriaethau.

mortgage arrears advice

CAB Advice Guide