Landlordiaid - Dod o Hyd i Denant

Sut alla i ddod o hyd i denant newydd?

Gallwch hysbysebu eich eiddo ar y wefan hon, neu fel arall gallwch ymuno â'r Cynllun Gosod Tai CanDo sy'n cynnig gwasanaeth rheoli ac atgyweirio llawn a didrafferth i landlordiaid am bris cystadleuol. I gael rhagor o wybodaeth, ac i lawrlwytho ffurflen gofrestru, ewch i http://www.candolettings.co.uk/

Efallai yr hoffech hefyd ystyried hysbysebu drwy asiant ALMA - www.almacardiff.co.uk neu, os yw eich eiddo'n addas i fyfyrwyr - drwy restrau cymeradwy landlordiaid preifat Prifysgol Caerdydd ac UWIC. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'r Gwasanaethau Llety Prifysgolion.