Cyflwynwyd y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) yng Nghymru ddydd Iau 1 Rhagfyr 2022.
Mae'r gyfraith newydd hon yn berthnasol i holl denantiaid a landlordiaid tai preifat a chymdeithasol (Tai Cyngor a Chymdeithasau Tai) yng Nghymru.
Os taw Cyngor Caerdydd yw'ch landlord, byddwch yn parhau â'r hawl i fyw yn eich cartref, a Chyngor Caerdydd fydd eich landlord o hyd. Os ydych yn denant Cyngor Caerdydd, y prif newidiadau yw yma neu gallwch ffonio 029 2053 7111, anfonwch e-bost i DeddfRhentuCartrefi@caerdydd.gov.uk neu galwch heibio i'r Hyb am ragor o wybodaeth.
Os ydych yn rhentu gan Gymdeithas Tai, cysylltwch â nhw ar:
- Cadwyn - 029 2049 8898
- Tai Cymunedol Caerdydd - 029 2046 8490
- Hafod - 0800 024 8968
- Linc - 0800 072 0966
- Newydd - 0303 040 1998
- Tai Taf - 0800 121 6064
- United Welsh - 0330 159 6080
- Wales & West - 0800 052 2526
Os ydych yn rhentu'n breifat cysylltwch &acric;'ch landlord, neu os ydych yn landlord preifat, cysylltwch â'n Gwasanaeth Ymholiadau Landlordiaid a Gwasanaethau Cymorth i Denant (LETS) ar 029 2057 0750, opsiwn 1 a fydd yn gallu rhoi arweiniad a chefnogaeth i chi ar newidiadau a gofynion y Ddeddfwriaeth.
Mae mwy o wybodaeth am Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) ar gael drwy ddefnyddio'r ddolen ganlynol: Mae cyfraith tai yn newid: Rhentu Cartrefi Cymru (LLYW.CYMRU)