Beth sydd ar gael a sut i ddod o hyd iddo
Tai neu fflatiau annibynnol
Bydd gennych eich cegin a'ch ystafell ymolchi eich hun. Dyma'r math drutaf o lety. gallwch gael fflat un ystafell am tua £45 yr wythnos, fflat yn yr ardaloedd rhatach am £55 yr wythnos a thŷ â dwy ystafell wely yn yr ardaloedd rhatach am £100 yr wythnos.
Pa fath o gartrefi sydd ar gael yn y sector rhent preifat?
Mae amrywiaeth o gartrefi ar gael yn y sector rhent preifat i ddiwallu anghenion pawb. Bydd y math o gartref y gallwch ei rentu yn dibynnu ar eich incwm, geirdaon (os oes angen), beth sydd ar gael pan fyddwch yn chwilio am gartref a'r ardaloedd y byddwch yn dewis chwilio yno.
Rhentu ystafell fel lletywr
Dyma pan fyddwch yn rhentu ystafell yn nhŷ neu fflat rhywun gan rannu'r holl gyfleusterau gyda'r landlord. Gallwch ddisgwyl talu rhwng £40 a £80 yr wythnos am y math hwn o lety, yn dibynnu ar yr ardal.
Byw mewn cartref a rennir
Mae gennych eich ystafell eich hun ond rydych yn rhannu cyfleusterau fel cegin neu ystafell ymolchi gyda thenantiaid eraill. Bydd ystafell mewn tŷ neu fflat a rennir yn amrywio yn unol â nifer y bobl, ond mae fflatiau dwy ystafell wely yn dechrau o tua £40 yr wythnos yn yr ardaloedd rhatach.
Dysgwch fwy am eich hawliau fel tenant