I wneud cais am dai, bydd rhaid i chi ddarparu'r dystiolaeth isod:
Tystiolaeth ar gyfer Cais am Dai
Bydd angen i chi ddarparu un o'r canlynol fel prawf o'ch hunaniaeth o ran chi’ch eich hun ac unrhyw ymgeisydd ar y cyd:
· Trwydded Yrru â Ffotograff
· Pasbort
Os nad oes gennych drwydded yrru neu basbort, dewch ag un o'r canlynol:
· Tystysgrif geni
· Prawf o’ch Rhif Yswiriant Gwladol
Bydd angen i chi ddarparu'r holl dystiolaeth o'ch statws mewnfudo i chi’ch hun a/neu unrhyw ymgeisydd ar y cyd:
· Eich cod rhannu 6 digid
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth sy'n berthnasol i'ch sefyllfa ddigartref:
· Hysbysiad wedi’i gyflwyno gan landlord
· Llythyr cyflogwr yn cadarnhau prawf o lety clwm
· Papurau rhyddhau o'r lluoedd arfog
Bydd angen i chi ddarparu prawf preswylio ar gyfer POB aelod o'r aelwyd gan gynnwys plant:
Ar gyfer yr Ymgeisydd/Ymgeiswyr ac Aelodau o’r Cartref sy’n Oedolion
Gellir derbyn unrhyw un o'r dogfennau canlynol fel prawf o'r preswylfa gyfredol a dylid ei ddyddio o fewn y 6 mis diwethaf gyda'r cyfeiriad presennol arno:
· Bil cyfleustodau'r cartref / datganiad ffôn symudol
· Bil Treth y Cyngor / Llythyr Budd-dal tai
· Slip Talu â Chyfeiriad
· Datganiadau Banc / Cymdeithas Adeiladu
· Budd-dal Plant / Lwfans Ceisio Gwaith / Llyfr pensiwn
· Trwydded Deledu
· Dogfennau Cofrestru Car
· Gohebiaeth oddi wrth adran y Llywodraeth fel yr Adran Gwaith a Phensiynau, y GIG neu Ffiniau a Mewnfudo
· Llythyr gan Goleg/Ysgol
· Cytundeb Tenantiaeth (os gwnaethoch chi lofnodi o fewn y pedair wythnos diwethaf)
Prawf Preswylio – plant
Gellir derbyn unrhyw un o'r canlynol fel tystiolaeth o blant preswyl o dan 16 oed, neu rhwng 16 a 18 oed ac mewn addysg llawn-amser:
· Llythyr Budd-dal Plant, dyddiedig o fewn y 4 wythnos diwethaf, gyda chyfeiriad yn cyfateb i gyfeiriad y cais.
· Llythyr Budd-dal Plant, sydd dros 4 wythnos oed, ynghyd â datganiad banc diweddaraf yr ymgeisydd sy'n dangos y credyd budd-daliadau a chyfeiriad y cais.
· Llythyr Credyd Treth Plant gyda chyfeiriad yn cyfateb i gyfeiriad y cais.
Bydd angen i chi ddarparu prawf o'r beichiogrwydd:
· Tystysgrif Mamolaeth – Cerdyn cyn geni Ffurflen MAT B1
Mae arnom angen prawf eich bod wedi byw yng Nghaerdydd yn barhaus dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth sy'n dangos eich hanes cyfeiriad 2 flynedd diwethaf. Gellir derbyn unrhyw un o'r dogfennau canlynol sy'n dangos eich cyfeiriad ar gyfer cysylltiad lleol:
· Bil cyfleustodau cartref / datganiad ffôn symudol
· Bil Treth y Cyngor / Llythyr Budd-dal tai
· Slip Talu â Chyfeiriad
· Datganiadau Banc / Cymdeithas Adeiladu
· Budd-dal Plant / Lwfans Ceisio Gwaith / Llyfr pensiwn / Trwydded Deledu
· Dogfennau Cofrestru Car
· Gohebiaeth oddi wrth adran y Llywodraeth fel yr Adran Gwaith a Phensiynau, y GIG neu Ffiniau a Mewnfudo
· Cytundeb Tenantiaeth Llythyr Coleg / Ysgol