Gwirydd Asbestos

Chwiliwch am eich eiddo - nodwch naill ai'ch cod post neu enw cyfan/rhan o enw'ch stryd.


Brig y Ffurflen

Mae Adran Tai ac Adnewyddu Cymdogaeth Cyngor Caerdydd wedi cynnal oddeutu 12,000 o arolygon asbestos domestig a bydd yn parhau nes bydd ein holl eiddo yn cael eu harolygu. Mae canfyddiadau'r arolwg wedi dangos na chafodd unrhyw asbestos a nodwyd ei ystyried yn risg uchel.

Mae mwyafrif helaeth yr asbestos a nodwyd wedi cael eu dosbarthu fel RISG ISEL neu ISEL IAWN.

Os yw deunydd asbestos yn cael ei ddifrodi neu ei ddosbarthu fel RISG GANOLIG neu UCHEL, bydd yr Adran Tai ac Adnewyddu Cymdogaeth yn cymryd camau ar unwaith i'w atgyweirio, ei amgáu neu ei dynnu.

Cofiwch: Nid yw asbestos yn risg os yw mewn cyflwr da ac nad yw'n cael ei amharu arno.

Diffinnir y categorïau risg fel a ganlyn:

Risg Isel Iawn neu Risg Isel, mae'r rhain yn gategorïau sy'n cael eu defnyddio o ran deunyddiau sy'n cynnwys asbestos mewn cyflwr da ac wedi'u lleoli mewn ardal lle mae'n annhebygol y cawn nhw eu difrodi neu eu hamharu arnynt.

Risg Ganolig, mae'r categori hwn yn berthnasol i ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos sydd mewn cyflwr da ond wedi'u lleoli mewn ardal lle credir y gallent gael eu difrodi.

Risg Uchel, mae'r categori hwn yn berthnasol i ddeunyddiau sy'n cynnwys asbestos lle mae angen cymryd camau rheoli ar frys i wneud y deunydd sy'n cynnwys asbestos yn ddiogel.

Os ydych chi'n Denant Cyngor a'ch bod am wneud unrhyw welliannau i'r cartref a allai amharu ar ddeunydd sy'n cynnwys asbestos, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am unrhyw asbestos yn eich cartref a'r wybodaeth gysylltiedig, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â Llinell Gymorth Asbestos Cyngor Caerdydd ar 029 2087 2088.

Gwefan asbestos yr Adran Tai ac Adnewyddu Cymdogaeth